Adeiladu Cymru well – Polisïau Llafur i fynd â Chymru yn ei blaen
Mae Llafur yn gweithio efo pobl Cymru i adeiladu gwlad sy’n llwyddianus, hyderus ac uchelgeisiol. Gallwch is-lwytho ein Maniffesto yma neu fe allwch ddarllen maniffestos rhanbarthol isod.
Swyddi o safon mewn gwlad fach glyfar
Bellach, mae gan economi Cymru sylfeini cryf i lwyddo yn y dyfodol. Ers 1999, mae Cymru wedi gweld mwy o ostyngiad mewn diweithdra nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, a chynnydd o 130,000 yng nghyfanswm y swyddi newydd. Byddwn ni’n awr yn gweithredu i gyflymu cyfradd y llwyddiant hwnnw yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac yn rhoi gwyddoniaeth, technoleg ac ymchwil ar y blaen.
Ein plant yw’n dyfodol ni. Gan i ni fuddsoddi mewn addysg, cafwyd y lefel uchaf erioed o gyflawni mewn ysgolion – fe wnawn yn siwr bod gennym y sgiliau I lwyddo yn y dyfodol. Fe weithredwn i ddileu tlodi plant erbyn 2020.
Yng Nghymru, mae pobl yn byw’n hwy ac yn iachach nag erioed o’r blaen. Fe weithredwn ni i sicrhau hyd yn oed well safonau iechyd a gofal iechyd, ac fe roddwn ni bolisïau ar waith i sicrhau y caiff ein plant y cychwyn iachaf posibl i’w bywydau.
Bydd pobl yng Nghymru’n ymfalchïo yn eu trefi, eu pentrefi a’u cymunedau. Mi fyddwn yn mynd i’r afael i gael gwared ar sbwriel, graffiti ac arwyddion o esgeulustra; a sicrhau diogelwch ar ein strydoedd i’n ddinasyddion.
Fe aiff Llafur i’r afael â her y newid yn yr hinsawdd ac adeiladu Cymru sy’n gynaliadwy, yn iachach ac yn wyrddach.
Lawrlwythio
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf Saesneg o Faniffesto Llafur Cymru
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf Cymraeg o Faniffesto Llafur Cymru
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf Cymraeg o Talfyriad o Faniffesto Llafur Cymru
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf o Faniffesto Gogledd Cymru
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf o Faniffesto Gorllewin Cymru
Cliciwch yma i is-lwytho .pdf o Faniffesto’r Cymoedd